SL(6)276 – Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) (Diwygio) 2022
Cefndir a diben
Mae Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022 (“Rheoliadau 2022”) yn rhagnodi’r materion a’r amgylchiadau y mae rhaid rhoi sylw iddynt wrth benderfynu a yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi ai peidio.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2022 drwy:
· Ymestyn y cyfnod pan fydd yn rhaid i’r landlord roi copi o’r adroddiad ar gyflwr trydanol i ddeiliad y contract, a hynny o 7 diwrnod i 14 diwrnod. Caiff y cyfnod sydd ar gael i ddarparu cadarnhad ysgrifenedig o waith adfer i ddeiliad y contract ei ymestyn yn yr un modd.
· Diweddaru'r cyfeiriad at Reoliadau Gwifrau Trydanol BS7671 i adlewyrchu'r fersiwn ddiweddaraf a gyhoeddwyd yn 2022 gan y Sefydliad Safonau Prydeinig.
Gweithdrefn
Negyddol
Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnod pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.
Materion technegol: craffu
Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn:
1. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.
Yn rheoliad 2(2)(a), mae cyfeiriad at “baragraff (a)”. Mae hyn yn anghywir oherwydd y dylai gyfeirio at “is-baragraff (a)” (ychwanegwyd y pwyslais) gan ei fod yn cyferio at israniad ym mharagraff (3) o reoliad 6 o Reoliadau 2022.
Rhinweddau: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
1 Tachwedd 2022